Sefydlwyd LLAIS ym Mawrth 2006 ac fe’i cyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni’r canlynol:
-
Sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd natur ddwyieithog Cymru a’i siaradwyr i ystyriaeth yn llawn.
-
Hybu’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer ymarfer iaith-briodol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn rhinwedd ei swyddogaeth newydd yn NISCHR comisiynwyd LLAIS i weithio tuag at sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymateb i anghenion siaradwyr Cymraeg. Er bod y dull gweithredu hwn yn ymgorffori’r fframwaith deddfwriaethol a statudol newydd i gyflwyno gwasanaethau yn Gymraeg i’r sector cyhoeddus, mae hefyd yn fodd i atgyfnerthu dilysrwydd canfyddiadau ymchwil mewn sefyllfaoedd dwyieithog; a chryfhau effaith y canfyddiadau hynny ar bolisi ac ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y Gymru ddwyieithog.
Mae sefydlu NISCHR CRC wedi esgor ar gyfleoedd newydd i sianelu ymdrechion i ymgorffori ymwybyddiaeth iaith mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn y cyd-destun dwyieithog. Mae LLAIS wedi ymgymryd â swyddogaeth ganolog yn y datblygiadau hyn, trwy greu cysylltiad agos â gwaith NISCHR CRC a thrwy gyfrannu’n weithgar tuag at gefnogi rhagoriaeth o fewn astudiaethau ymchwil sy’n canolbwyntio ar bobl.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Chyfarwyddwr LLAIS:
| Gwerfyl Roberts |
|
Uwch Ddarlithydd
Canolfan Ymchwil Cysylltiedig ag Iechyd
Ysgol Gwyddorau Gofal
Iechyd
Prifysgol Bangor
Gwynedd
LL57 2EF
Ffôn: 01248 383165
E-bost:
llais@bangor.ac.uk |